Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith /

Climate Change, Environment and Infrastructure Committee

Datgarboneiddio'r sector tai preifat / Decarbonising the private housing sector

DH2P_14

Ymateb gan / Evidence from National Energy Action (NEA) Cymru

 

 

1.      Cyflwyniad

 

1.1  Mae National Energy Action (NEA) yn elusen tlodi tanwydd genedlaethol sy'n dymuno sicrhau y gall pawb fforddio cadw eu cartrefi'n gynnes ac yn ddiogel.[1] Ac eto erbyn hyn - yn fwy nag erioed - mae cyfuniad gwenwynig o brisiau ynni eithriadol o uchel, incwm isel a thai aneffeithlon yn gwadu hyn i gannoedd ar filoedd o bobl yng Nghymru.

 

1.2  Rydym yn croesawu'r cyfle hwn i helpu i gyfeirio ymchwiliad byr y Pwyllgor i ddatgarboneiddio'r sector tai preifat, a gwneud hynny gan ganolbwyntio'n benodol ar y rhai sy'n byw ar yr incwm isaf, yn y cartrefi lleiaf effeithlon. Yn benodol, hoffem amlygu pwysigrwydd hanfodol Rhaglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru yn y gofod hwn, ochr yn ochr ag effaith oedi ar ran Llywodraeth y DU wrth wella Safonau Effeithlonrwydd Ynni Gofynnol yn y sector rhentu preifat (SRhP) yma.

 

2.      Yr ymagwedd bresennol at ddatgarboneiddio tai yn sectorau rhentu preifat a pherchennog preswyl Cymru, gan gynnwys effeithiolrwydd rhaglenni a chefnogaeth ôl-osod bresennol

 

2.1  Cymru sydd â'r stoc adeiladau hynaf a lleiaf effeithlon o safbwynt thermol o'i chymharu â gwledydd eraill y DU a gwledydd gogledd Ewrop. Gyda Thystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) D ar gyfartaledd, mae ar Gymru angen y lefel uchaf o fuddsoddiad o unrhyw ranbarth yn y DU i gyrraedd EPC Band C.[2] Mae hyn yn effeithio'n anghymesur ar yr aelwydydd tlotach yng Nghymru; y mae llawer ohonynt wedi'u dal yn y cartrefi mwyaf aneffeithlon, er anfantais i'w hiechyd a'u llesiant.

 

2.2  Yn 2018, roedd rhentwyr preifat a pherchnogion preswyl yn cynrychioli'r mwyafrif helaethaf (87%) o'r boblogaeth mewn tlodi tanwydd yng Nghymru.[3] Y mwyafrif oedd y ddaliadaeth perchennog preswyl (64%), gan mai hwn yw'r math mwyaf cyffredin o ddaliadaeth o fewn stoc tai Cymru.[4] Y SRhP - y ddaliadaeth sy'n perfformio gwaethaf o ran effeithlonrwydd ynni[5] - oedd â'r gyfran uchaf o aelwydydd mewn tlodi tanwydd, lle'r oedd tua 20% o'r holl aelwydydd rhentu preifat mewn tlodi tanwydd o'i gymharu â 11% o berchnogion preswyl a 9% o dai cymdeithasol bryd hynny.[6]

 

2.3  Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi gweld prisiau ynni'n esgyn i lefelau digynsail, sydd yn aml yn amhosib i'w fforddio. Erbyn hyn mae Llywodraeth Cymru'n amcangyfrif y gallai hyd at 45% o holl aelwydydd Cymru (h.y. 614,000) fod mewn tlodi tanwydd erbyn hyn, gan ddilyn y cynnydd yn y cap ar brisiau ynni o 1 Ebrill 2022. Amcangyfrifir bod hynny'n cynnwys hyd at 98% o holl aelwydydd incwm is Cymru (217,700), a rhagfynegir bod hyd at 41% (91,700) mewn tlodi tanwydd difrifol.[7]

 

2.4  Er nad yw amcangyfrifon modelu diweddaraf Llywodraeth Cymru yn cynnwys dadansoddiad fesul daliadaeth, rydym yn disgwyl y bydd y sector tai preifat yng Nghymru yn parhau i gartrefu'r mwyafrif helaeth o aelwydydd mewn tlodi tanwydd yng Nghymru, fel yn 2018.

 

2.5  Yn anffodus, mae'r sefyllfa hon ond yn debygol o fynd yn fwy enbyd, gyda'r rhagolygon diweddaraf gan Cornwall Insight yn rhybuddio bod y cap ar brisiau ynni'n debygol o godi eto, ymhell y tu hwnt i'r c.£2,000/ blwyddyn ar gyfartaledd sydd gennym heddiw, i fwy na £4,250 y flwyddyn erbyn mis Ionawr 2023.[8]

 

2.6  Mae'r rhain yn gostau amhosib i lawer o bobl a byddant yn uwch o lawer i'r rhai sy'n byw yn y cartrefi lleiaf effeithlon. Ni fu'r achos dros uwchraddio effeithlonrwydd ynni ein tai presennol wrth i ni ddatgarboneiddio erioed yn gryfach nac yn fwy brys. Cynyddu effeithlonrwydd thermol cartrefi yw'r ffordd orau a pharhaol o hyd o leihau tlodi tanwydd, gan ddarparu gostyngiad parhaol mewn biliau ynni, a helpu i sicrhau bod y newid i wresogi glân mor gost-effeithiol â phosib.

 

2.7  Mae NEA o'r farn gref mai'r prawf litmws go iawn ar gyfer y rhan fwyaf o'r boblogaeth sy'n dlawd o ran tanwydd yng Nghymru mewn perthynas â symud tuag at ein targedau newid yn yr hinsawdd a thlodi tanwydd fydd cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer fersiwn nesaf ei Rhaglen Cartrefi Clyd. Disgwylir i'r rhain gael eu cyhoeddi ym mis Medi.

 

3.      Camau y dylai Llywodraeth Cymru eu cymryd i fwrw ymlaen â rhaglen ôl-osod ar gyfer y sectorau hyn yn y tymor byr, canolig a hir

 

3.1  Yn ddiweddar, mae Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd wedi arwain ymchwiliad i'r Rhaglen Cartrefi Clyd[9]. Mae NEA yn cefnogi llawer o'i argymhellion.

 

3.2  Darparodd NEA dystiolaeth ysgrifenedig a llafar i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ac er mwyn cadw hyn yn gryno, fe'ch gwahoddwn i ystyried y dystiolaeth honno fel rhan o'ch ymchwiliad presennol. Darperir dolen i'n cyflwyniad ysgrifenedig yn yr ôl-nodyn hwn.[10]

 

3.3  Yn gryno, mae NEA o'r farn bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau y bydd y Rhaglen Cartrefi Clyd nesaf yn:

·         targedu'r 'gwaethaf yn gyntaf', gan ganolbwyntio ar godi aelwydydd ar yr incwm isaf yn y cartrefi a rentir yn breifat a pherchennog preswyl lleiaf effeithlon allan o dlodi tanwydd;

·         mabwysiadu ymagwedd mesurau lluosog, 'ffabrig yn gyntaf' briodol, gan gynnwys rhaglen gymorth wedi'i theilwra sydd â'r nod o ymdrin â'r heriau penodol a wynebir mewn ardaloedd gwledig;

·         hygyrch i bob aelwyd sy'n gymwys i gael cymorth a bod mesurau'n cael eu cefnogi gan gyngor cynhwysfawr;

·         cael ei gefnogi gan gyllid digonol a sail gyfreithiol gadarn i gyflawni'r uchelgais a nodwyd yng Nghynllun Trechu Tlodi Tanwydd Llywodraeth Cymru.

 

3.4  Yn ddi-os mae'r Rhaglen Cartrefi Clyd wedi gwneud rhai gwelliannau sydd i'w croesawu'n frwd i fywydau aelwydydd mewn tlodi tanwydd dros y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, mae ei esblygiad wedi golygu'n gynyddol na fu iddi gyflawni ei 'hymagwedd tŷ cyfan' wreiddiol yn llawn, yn hytrach mae wedi dibynnu'n drwm ar osod boeleri a gosodiadau gwres canolog newydd, gyda llawer llai o fesurau inswleiddio. Mae hyn wedi bod ar draul uwchraddiadau pwrpasol eraill i ffabrig, a fyddai'n darparu manteision hirdymor ac yn helpu i wneud ein cartrefi'n gynaliadwy gynnes.

 

3.5  Mae ein tystiolaeth i'r pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn myfyrio ar sut y gall Llywodraeth Cymru sicrhau y bydd fersiwn nesaf y Rhaglen Cartrefi Clyd yn gweddu'n well i'w hymdrechion i ddatgarboneiddio tai yng Nghymru ac yn cyfeirio at Fonitor Tlodi Tanwydd 2021[11] NEA ac Energy Action Scotland a ymchwiliodd yn gynhwysfawr i faterion cysylltiedig, gan wneud sawl argymhelliad ynglŷn â sut i ddatgarboneiddio gwresogi'n effeithiol mewn aelwydydd sy'n dlawd o ran tanwydd.

 

3.6  Rydym hefyd yn croesawu adroddiad diweddar Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, Cartrefi Addas ar gyfer y Dyfodol[12], ac adroddiad diweddar y Sefydliad Tai Siartredig, Datgarboneiddio Sector Rhentu Preifat Cymru[13], sy'n cefnogi'r casgliadau, gan gynnwys y dylai Llywodraeth Cymru ddiwygio'r Rhaglen Cartrefi Clyd a dyblu'r cyllid i ~£732 miliwn ar gyfer yr 2020au, wedi'u targedu at yr eiddo gwaethaf a'r rhai sydd mewn tlodi tanwydd difrifol.[14]

 

4.      Yr heriau allweddol wrth gyflwyno rhaglen ôl-osod yn y sectorau hyn, gan gynnwys y rhai ariannol, ymarferol ac ymddygiadol, a'r camau sydd eu hangen gan Lywodraeth Cymru (a'i phartneriaid) i'w goresgyn

 

4.1  Ym Monitor Tlodi Tanwydd 2021 NEA, gwelsom fod aelwydydd mewn tlodi tanwydd yn wynebu rhwystrau ariannol, ffisegol ac o ran cyngor a rheoleiddio i ddatgarboneiddio eu cartrefi. Mae angen i Lywodraeth Cymru oresgyn y rhain i gyd trwy ei hymagwedd at ddylunio'r cynlluniau. Crynhoir y rhwystrau hyn a'n cynigion i'w goresgyn isod.

 

 

Math

Rhwystrau

Argymhellion

Ariannol

Yr angen am gymorth ariannol ychwanegol

Dylai Llywodraeth Cymru gynyddu cyllid tlodi tanwydd, i £325m i 2025, yn unol â'r argymhelliad gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru.

Dylai'r cyllid dalu am gostau cudd pan fo hynny'n briodol.

Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Gweithredwyr y Rhwydweithiau Dosbarthu (DNO) i sicrhau bod costau gwella'r cysylltiad mewn cartref sy'n dlawd o ran tanwydd (wrth osod pwmp gwres) yn cael eu cymdeithasu.

Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y DU i helpu lleihau cost ardollau offer adnewyddadwy etifeddol ar filiau trydan er mwyn gostwng costau rhedeg pympiau gwres.

Costau cudd, fel adnewyddu'r gosodiad trydanol ac ail-addurno

Y potensial i filiau ynni gynyddu ar ôl newid technoleg gwresogi

Anallu cartrefi sydd mewn dyled ynni i gapio eu cyflenwad nwy

Ffisegol

Mae angen mwy o fuddsoddiad ar gartrefi sydd ag effeithlonrwydd ynni is i fod yn 'barod am sero net’

Dylai pob polisi i ddatgarboneiddio gwres fod yn 'ffabrig yn gyntaf’.

Dylai fod capiau digonol ar gostau cynlluniau tlodi tanwydd i ddarparu ar gyfer y costau uchel a wynebir yn aml wrth wella tai o ansawdd gwael.

Dylai cyllid hirdymor fod ar gael i gydweddu â'r signalau rheoleiddio.

Buddsoddiad uwch o lawer ar gyfer y cartrefi gwledig sy'n perfformio waethaf

Mae diffyg gosodwyr i wneud y fath welliannau

Cyngor ac Ymwybyddiaeth

Mae diffyg ymwybyddiaeth ynglŷn â pha dechnolegau sy'n gweddu orau i ba aelwyd

Dylid darparu cyllid ar gyfer cyngor ymarferol i aelwydydd sydd wedi'u hallgau'n ddigidol.

Cynnal safonau ansawdd uchel (h.y. TrustMark a PAS 2035) trwy gydol cynlluniau effeithlonrwydd ynni

Dylai iawndal fod ar gael pan fydd gosodiadau'n disgyn o dan y safon ofynnol.

Ychydig iawn o gyllid canolog sydd ar gyfer cyngor ar ynni

Mae diffyg amddiffyniad i ddefnyddwyr o ran effeithlonrwydd ynni a thechnolegau gwresogi carbon isel

Polisi a Rheoleiddio

Diffyg cyllid i helpu aelwydydd mewn tlodi tanwydd i ddatgarboneiddio

Cyllid hirdymor ychwanegol (fel uchod).

Ymestyn rheoliadau'r sector rhentu preifat i EPC C erbyn 2028, gan gynnwys cofrestr landlordiaid [yn Lloegr, fel yng Nghymru] i gynorthwyo gorfodi.

Bu'r cyllid yn gymharol fyr dymor

Diffyg gorfodi rheoliadau'r sector rhentu preifat

 

 

5.      Sut y gellir taro'r cydbwysedd cywir rhwng dylanwadu/cymell perchnogion cartrefi a landlordiaid y sector preifat i ôl-osod eu heiddo a rheoleiddio i godi safonau er mwyn sbarduno cynnydd

 

5.1  Yr isafswm safon gyfer effeithlonrwydd ynni a bennir ar gyfer eiddo rhentu preifat yng Nghymru a Lloegr ar hyn o bryd yw EPC E, yn unol â'r Isafswm Safonau Effeithlonrwydd Ynni yn Rheoliadau Effeithlonrwydd Ynni (Eiddo Rhentu Preifat) (Cymru a Lloegr) 2015.

 

5.2  Ymrwymodd Llywodraeth y DU i estyn rheoliadau SRhP yn y Strategaeth Twf Glân am y tro cyntaf ym mis Hydref 2017, gyda'r nod o uwchraddio cynifer o gartrefi rhentu preifat â phosib i EPC C erbyn 2030, pan fo hynny'n ymarferol, yn gost-effeithiol, ac yn fforddiadwy. Fe ymgynghorodd wedyn ar godi'r isafswm safon hon i EPC C erbyn 2028. Cadarnhawyd yr ymrwymiad hwn yn Strategaeth Tlodi Tanwydd 2021 a Strategaeth Gwres ac Adeiladau diwygiedig Llywodraeth y DU.

 

5.3  Byddai'r fath newid mewn safonau'n gam cadarnhaol. Fodd bynnag, er bod bron i bum mlynedd wedi mynd heibio ers i Lywodraeth y DU wneud yr ymrwymiad hwn yn y lle cyntaf, a bron i ddwy flynedd ers iddi ymgynghori ar y manylion, rydym yn dal i aros am ymateb a rheoliadau diwygiedig Llywodraeth y DU. Gan hynny, mae'n bosib bod y cyfraniad y mae Llywodraeth y DU efallai wedi tybio y byddai gwelliannau SRhP yn ei wneud at gyflwyno ein hymdrechion tlodi tanwydd a gostwng carbon yn llawer llai erbyn hyn. Rydym hefyd yn bryderus iawn y bydd y polisi, os caiff ei gyhoeddi, yn sylweddol wannach neu efallai na fydd yn digwydd o gwbl.

 

5.4  Y naill ffordd neu'r llall, byddai hyn yn tanseilio ymdrechion yng Nghymru yn sylweddol i gyrraedd ein targedau tlodi tanwydd a newid yn yr hinsawdd. O ystyried bod yr oedi'n deillio o ddiffyg gweithredu Llywodraeth y DU ei hun, mae hefyd yn codi amheuaeth ynghylch a yw'n gwneud popeth 'cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol' i fodloni ei ofynion statudol ei hun yn Lloegr.

 

5.5  At hynny, dim ond rhan o'r darlun yw'r rheoliadau. Mae'n rhaid gorfodi rheoliadau ac mae'r ddyletswydd o dan MEES i wneud hynny wedi'i gosod ar awdurdodau lleol. Gan hynny, rydym yn adleisio casgliad y Sefydliad Siartredig Tai Cymru bod angen rheoliadau a safonau newydd i sbarduno cynnydd yn nifer y rhai sy'n manteisio ar effeithlonrwydd ynni yn y SRhP, ac wrth gyflawni amcanion sero net, a fydd yn gofyn am fwy o adnoddau a gwell gorfodaeth, yn enwedig ar gyfer awdurdodau lleol.[15]

 

5.6  Mae'n rhaid i reoliadau hefyd gael eu hategu gan gymhellion ar gyfer landlordiaid preifat. Mae llawer o ffyrdd o wneud hyn, gan gynnwys trwy gymhellion treth fel y Lwfans Arbed Ynni Landlordiaid sydd bellach wedi dod i ben. Fodd bynnag, mae polisi treth yn bŵer a gedwir yn ôl. O fewn rheolaeth Llywodraeth Cymru mae'r gallu i ddarparu cyllid i landlordiaid os ydynt yn bwriadu cyrraedd y safon. Mae arfer da yn Lloegr wedi galluogi landlordiaid i gyrchu cyllid sy'n cyfateb i draean o gost y mesurau, hyd at draean o'r cap cyffredinol ar gostau o fewn cynlluniau. Byddai efelychu'r ymagwedd hon yng Nghymru'n ddatblygiad i'w groesawu. Fodd bynnag, os oes modd i landlordiaid gyrchu cymhellion, mae'n rhaid rhoi cytundeb ar waith na ellir codi rhenti am o leiaf dair blynedd ar ôl i'r mesurau gael eu gosod. Byddai'n annheg i Lywodraeth Cymru roi cymhorthdal i fesurau, dim ond i'r gwelliannau hynny arwain at gynnydd mewn rhent yn syth wedyn.

 

DIWEDD

 



[1] Mae National Energy Action (NEA) Cymru yn eirioli dros wneud cartrefi cynnes yn flaenoriaeth genedlaethol, yn darparu llwyfannau i sefydliadau cymunedol ddod ynghyd i rannu barn ac arfer gorau, ac yn gweithio gyda phartneriaid i ddarparu hyfforddiant a chymwysterau cenedlaethol gysylltiedig â thlodi tanwydd, dyled tanwydd, cynhesrwydd fforddiadwy a chyngor ymarferol ar ynni i staff sy'n wynebu'r gymuned, ac i gefnogi aelwydydd incwm isel ac agored i niwed anghenus yn uniongyrchol. Gweler www.nea.org.uk.

[2] Gweler Datgarboneiddio Sector Rhentu Preifat Cymru, Sefydliad Tai Siartredig Cymru yn https://cih.org/media/sndhqsjn/0510-ttc-decarbonising-wales-private-rented-sector-welsh.pdf

[3] Gweler Amcangyfrifon tlodi tanwydd ar gyfer Cymru, 2018: diwygiedig, Llywodraeth Cymru yn https://llyw.cymru/sites/default/files/statistics-and-research/2019-12/amcangyfrifon-tlodi-tanwydd-ar-gyfer-cymru-2018.pdf

[4] ibid

[5] Gweler Datgarboneiddio Sector Rhentu Preifat Cymru, Sefydliad Tai Siartredig Cymru yn https://cih.org/media/sndhqsjn/0510-ttc-decarbonising-wales-private-rented-sector-welsh.pdf

[6] Gweler Amcangyfrifon tlodi tanwydd ar gyfer Cymru, 2018: diwygiedig, Llywodraeth Cymru yn https://llyw.cymru/sites/default/files/statistics-and-research/2019-12/amcangyfrifon-tlodi-tanwydd-ar-gyfer-cymru-2018.pdf

[7] Gweler Amcangyfrifon tlodi tanwydd wedi'u modelu ar gyfer Cymru (prif ganlyniadau): ym mis Hydref 2021 yn https://llyw.cymru/amcangyfrifon-tlodi-tanwydd-wediu-modelu-ar-gyfer-cymru-prif-ganlyniadau-ym-mis-hydref-2021

[8] Gweler https://www.cornwall-insight.com/price-cap-forecasts-for-january-rise-to-over-4200-as-wholesale-prices-surge-again-and-ofgem-revises-cap-methodology/

[9] Gweler https://busnes.senedd.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=38494

[10] Gweler https://busnes.senedd.cymru/documents/s122018/FP12-%20National%20Energy%20Action%20Cymru.pdf

[11] Gweler Fuel Poverty Monitor 2020/21, NEA (2021) at https://www.nea.org.uk/wp-content/uploads/2021/11/0000_NEA_Fuel-Poverty-Report-and-Exec-Summary_v2.pdf

[12] Gweler Cartrefi addas ar gyfer y Dyfodol: Yr Her Ôl-osod, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru mewn partneriaeth â New Economics Foundation. Mae'r Comisiynydd yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gydweithio i ariannu'r her ôl-osod gan ddefnyddio'r holl ysgogiadau ariannol sydd ar gael iddynt. Mae'r cynigion yn cynnwys Llywodraeth Cymru yn dyblu cyllid tlodi tanwydd i £732m erbyn 2030 ac yn ei ategu â grantiau i bobl ar incwm isel a fyddai ar gael o gyllid seilwaith cenedlaethol Llywodraeth y DU (£2.6bn, ynghyd â dyraniad o £1bn o'r Gronfa Ffyniant a Rennir). Crynhoir canfyddiadau'r adroddiad mewn Crynodeb Gweithredol(https://www.futuregenerations.wales/wp-content/uploads/2021/07/CYM-Exec-Summary-CYM-Financing-the-decarbonisation-of-housing-in-Wales.pdf), a ategir gan Grynodeb Technegol (https://www.futuregenerations.wales/wp-content/uploads/2021/07/CYM-Tech-Summary-CYM-Financing-the-decarbonisation-of-housing-in-Wales.pdf) ac adroddiad manwl (https://neweconomics.org/uploads/files/Financing-Wales-Housing-Decarbonisation.pdf)

[13] Gweler Datgarboneiddio Sector Rhentu Preifat Cymru, Sefydliad Tai Siartredig Cymru yn https://cih.org/media/sndhqsjn/0510-ttc-decarbonising-wales-private-rented-sector-welsh.pdf

[14] ibid

[15] ibid